Ymunwch â ni am Noson y Gauchos Cymreig – noson arbennig yn dathlu’r cysylltiad unigryw rhwng Cymru a Phatagonia. Mwynhewch flasau asado (barbeciw) dilys o’r Ariannin ochr yn ochr â rhestr wych o adloniant Cymreig, yn cynnwys Bryn Fôn a Mered Morris, Rhys Meirion a Menna Rhys, a Pedair. Dilwyn Morgan fydd yn cyflwyno’r noson – gan addo bwyd, cerddoriaeth a chwmni cynnes gwych.